4. Y Gilfach Goffa

Glanllyn Mae pwysigrwydd Glan-llyn i’r ardal yn mynd yn ôl yn llawer pellach na chyfnod gwersyll yr Urdd yno. Adeiladwyd y plasty presennol fel ‘Shooting box’ i deulu Watkin Williams Wynne, o Wynnstay, Rhiwabon a byddent yn treulio misoedd yr haf yma yn croesawu eu tenantiaid i Sioe’r Bythynwyr ac yn bwysicaf oll yn mynd i saethu grugieir hyd y mynyddoedd.
Glanllyn Glan-llyn’s role in the area goes back much further than its days as a youth centre for Urdd Gobaith Cymru. The hall was built as a shooting box for the Williams Wynn family of Wynnstay and they spent the summer months here, welcoming their tenants to the ‘Cottagers Show’, but mostly to shoot grouse on the surrounding moors.
Byddent yn cyrraedd y plasty ar y trên o Riwabon ar y lein oedd yn arfer rhedeg hyd lan bellaf Llyn Tegid. Ar ôl cyrraedd y ‘Flag Station’ byddid yn codi baner i’r cwch o Lan-llyn groesi i’w nôl. Ond mae hanes y Stad yn mynd yn ôl yn llawer pellach na hynny, roedd cyn-deidiau teulu Glan-llyn yn berchen ar dir yn ardal Llanuwchllyn cyn belled yn ôl a’r 1300au o leiaf. Mae cerflun carreg o un aelod o’r teulu yn dal yn hen Eglwys Llanuwchllyn hyd heddiw sy’n cofnodi ei farw yn 1398. Yn raddol ychwanegodd y Stad fwy a mwy o dir ati yn yr ardaloedd yma, ac erbyn y penllanw yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd y mwyafrif llethol o dai, ffermydd a thyddynnod Llanuwchllyn yn berchen iddi. Roedd eu gafael ar yr ardal yn ymestyn i feysydd eraill hefyd, roedd eu bys ym mhob brwes yma, yn addysgol, crefyddol a gwleidyddol gan wthio eu gwerthoedd Saesnig, eglwysig a thorïaidd ar eu tenantiaid. Arweiniodd hynny at densiynau anferth yn yr ardal naturiol Gymreig, anghydffurfiol a radicalaidd hon. Ond erbyn yr 1940au daeth y cyfan i ben pan fu’n rhaid i’r teulu drosglwyddo’r Stad gyfan i’r goron oherwydd y dreth farwolaeth. Dyna pryd y cafodd yr Urdd afael ar y plasty. Gwersyll Glanllyn Wedi cyfnod ym meddiant y goron penderfynwyd gwerthu’r Stad i’r tenantiaid eu hunain yn yr 1960au a daeth tro mawr iawn ar fyd i drigolion Llanuwchllyn.
They arrived by train from Ruabon. When they reached the ‘Flag Station’, a flag was raised and the boat from Glan-llyn crossed the lake to ferry them there. But the history of the Estate itself extends over centuries, the forefathers of the Glan-llyn family owned lands in Llanuwchllyn in the 1300’s at least. A stone effigy of one member of the family remains in the Church at Llanuwchllyn to this day, noting his date of death as 1398. Gradually the Estate bought lands in the area, and by its heyday at the end of the nineteenth century, most of the area’s houses, farms and cottages belonged to it. Their hold over the area extended to other aspects, influencing on education, religion and politics and pushing their English, conservative and Anglican values on their tenants. This led to obvious tensions in this naturally Welsh, nonconformist, and liberal area. But in the 1940’s their influence in the area came to an end when the family had to transfer the whole Estate to the crown in lieu of death duties. That is when Urdd Gobaith Cymru took advantage of the opportunity to use the hall. Glanllyn After a period in the crown’s possession it was decided to sell the Estate to the tenants themselves in the 1960’s, bringing a new dawn to all the former tenants.
Ifan ab Owen Edwards Mae’r ymadrodd dilyn yn ôl traed ei dad yn arbennig o berthnasol i Ifan ab Owen Edwards. Treuliodd ei flynyddoedd cynnar rhwng Rhydychen a Brynraber yn y pentref. Roedd Ifan yn un o’r genhedlaeth oedd yn eu harddegau pan dorrodd y rhyfel mawr allan yn 1914 ac fe’i darbwyllwyd gan ei dad y dylai ymuno. Bu hynny’n loes calon i’w fam. Yn 1919 bu ei fam farw ac ymhen blwyddyn collodd ei dad hefyd. Yn ddyn ifanc 24 oed felly roedd Ifan ab Owen yn wynebu troi cefn ar waith mawr ei dad neu ei barhau. Dal ati oedd ei ddewis. Bu yntau’n cyhoeddi cylchgronau: Cymru (1920-27) Cymru'r Plant (1920-50), Gyda Cronicl yr Urdd fel atodiad (1928-33) O ran gyrfa, ar ôl graddio mewn hanes yng Ngholeg Lincoln, lle bu ei dad, fe’i penodwyd yn athro yn Nolgellau yn 1920 ac yna yn diwtor rhan-amser yn Adran Efrydiau Allanol, Prifysgol Aberystwyth yn 1921, darlithydd yn yr Adran Addysg yn 1933 a Chyfarwyddwr yr Adran Efrydiau Allanol yn 1946. Mewn llythyr yn Cymru’r Plant Ionawr 1922 y trafododd y syniad o sefydlu Urdd Gobaith Cymru gan ddilyn yn ôl troed ei dad â’i Urdd y Delyn eto. O hynny ymlaen sianelodd lawer iawn o’i egni i’r cyfeiriad hwnnw gan weld datblygiadau pwysig fel: y gwersyll cyntaf yn Llanuwchllyn yn 1928; Eisteddfod Genedlaethol gyntaf yr Urdd yn 1929; cystadlaethau athletaidd yn 1932; teithiau tramor yn 1933; gwersyll i ddysgwyr y Gymraeg a chynghrair bêl-droed i ennill cwpan yr Urdd yn 1941; gwersyll rhyngwladol yn 1948 a gwersyll Celtaidd yn 1949. Roedd gan O M Edwards ddiddordeb mewn ffotograffiaeth a dilynodd Ifan ab y llwybr hwnnw hefyd, ond gan fynd gam ymhellach a dangos y lluniau trwy gyfrwng ‘magic lantern’ i hyrwyddo gweithgareddau’r Urdd. Ond datblygiad arall ganddo oedd cynhyrchu ffilm ‘Y Chwarelwr’ yn 1935, y ffilm Gymraeg gyntaf, yn adrodd hanes chwarelwyr Blaenau Ffestiniog. Datblygodd y diddordeb hwnnw ymhellach trwy ddod yn gyfarwyddwr ar ‘Television Wales and the West’ , gan weithio i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei lle dyledus gan y cwmni. Bu’n byw yn Neuadd Wen, Llanuwchllyn hyd 1930, pan symudodd i ardal Aberystwyth at ei waith. Yno bu’n allweddol yn yr ymgyrch i sefydlu Ysgol Gymraeg ym 1939, cam sydd wedi bod yn ddylanwadol iawn ym myd addysg yng Nghymru fyth ers hynny. Rhagor o wybodaeth Syr Ifan ab Owen Edwards
Ifan ab Owen Edwards The expression ‘following in his father’s footsteps’ is particularly relevant for Ifan ab Owen Edwards. His early years were spent between Oxford and Brynraber in Llanuwchllyn. Ifan was one of the generation in their teens when the First World War broke out in 1914 and he was persuaded by his father that he should join up, causing much anguish to his mother. Between 1919 and 1920 he lost both his parents. As a young 24 year old man, therefore, Ifan ab Owen, had to choose between carrying on his father’s work, or turning his back on it. He chose to carry on. He continued with his father’s magazines: Cymru (1920-27) Cymru'r Plant (1920-50), With Cronicl yr Urdd and an appendix (1928-33) He graduated from Lincoln College, Oxford, where his father had been a tutor, he was appointed as a teacher in Dolgellau in 1920 and then as a part-time tutor in the Aberystwyth Extra-mural Studies, Department in 1921, lecturer in the Department of Education in 1933 and the Director of the Extra-mural Department in 1946. He aired the idea of establishing Urdd Gobaith Cymru for the first time in a letter in Cymru’r Plant in January 1922, following in his father’s footsteps again as he had established ‘Urdd y Delyn’ for children. From then on Ifan channelled much of his energy in that direction, overseeing important developments such as: the first camp at Llanuwchllyn in 1928; the Urdd’s first National Eisteddfod in 1929; athletic competitions in 1932; trips abroad in 1933; a camp for Welsh learners and a football league for the Urdd cup in 1941; an international camp in 1948 and a Celtic camp in 1949. Photography was one of O M Edwards’ interests, and Ifan again showed the same interest, going a step further and showing images with the ‘magic lantern’ to promote Urdd activities. Another development was the production of the film ‘Y Chwarelwr’ in 1935, the first Welsh language film, illustrating the lives of the Blaenau Ffestiniog quarrymen. He developed this interest further by becoming one of the directors of ‘Television Wales and the West’, working to ensure that the Welsh language featured in the company’s work. He lived at Neuadd Wen, Llanuwchllyn until 1930, when he moved to the Aberystwyth area due to his work there. He was pivotal in the campaign to establish a Welsh Medium School there in 1939, a movement that has been extremely influential in Wales ever since. Further reading Sir Ifan ab Owen Edwards
Owen M Edwards Mae yna rai Cymry sy’n cael eu cydnabod am eu cyfraniad anferthol i’r genedl, ac mae Owen M Edwards yn eu plith, ond hawdd iawn yw anghofio beth yn union oedd y cyfraniad hwnnw a’i faint. Mab fferm Coed y pry, yng Nghwm Cynllwyd oedd Owen M Edwards. Ei dad o deulu Pengeulan, y felin flawd leol, a’i fam yn ferch i Thomas Jones, y Garth Isaf. Er bod ei ewythr, Edward Edwards, Pengeulan yn cadw ysgol yn y Pandy yn Llanuwchllyn, anfonwyd Owen i ysgol yr eglwys yn y Llan. Saesneg oedd iaith yr addysg yno ac yn fwy na hynny byddai unrhyw un fyddai’n siarad Cymraeg yn cael ei gosbi. Roedd y dull o gosbi yn un arbennig o greulon gan ei fod yn dibynnu ar i’r plant gario cleps am ei gilydd. Byddai’r cyntaf fyddai’n cael ei ddal yn siarad Cymraeg yn cael y ‘Welsh Not’ am ei wddw a’r unig ffordd o gael gwared arno fyddai dal rhywun arall yn siarad Cymraeg. Byddai’r plentyn fyddai’n gwisgo’r ‘Welsh Not’ ar ddiwedd y dydd yn cael ei chwipio. Er gwaethaf y dechreuadau tywyll hynny o ran ei addysg ffurfiol aeth O M ymlaen i Ysgol Ramadeg y Bala ac i Goleg y Bala cyn symud ymlaen i Goleg Prifysgol Aberystwyth. Bu yn Glasgow am gyfnod cyn cyrraedd Coleg Balliol, Rhydychen ac astudio hanes yno. Treuliodd flwyddyn ar y cyfandir yn 1888 cyn troi yn ôl i Goleg Lincoln, Rhydychen yn ddarlithydd. Er mor feichus oedd gwaith darlithydd iddo, dyma’r cyfnod pan wnaeth ddechrau cyhoeddi yn Gymraeg a thân yn ei fol dros sicrhau bod ei gyd-Gymry yn cael digon o ddeunydd darllen ac ymwybyddiaeth o’u hanes a’u diwylliant ‘a chodi’r hen wlad yn ei hôl’. O ran cylchgronau cyhoeddodd: Cymru (1891) Cymru'r Plant (1892) Wales (1894) Y Llenor, (1895) Heddyw (1897) Ar ben hynny cyhoeddodd y llyfrau canlynol o’i waith ei hun: Trem ar Hanes Cymru (1893) Celtic Britain (1893) Clych Adgof (1906) O'r Bala i Geneva (1889) Ystraeon o Hanes Cymru (1894) Hanes Cymru (1895, 1899) Cartrefi Cymru (1896) Tro yn Llydaw (d.d. tua 1900) Wales (1901, yn y gyfres Stories of the Nations) A Short History of Wales (1906) Llyfr Del (1906). I blant. Tro trwy'r Gogledd (1907) Tro i'r De (1907) Hwiangerddi (1911). I blant. Llyfr Nest (1913). I blant. Ar ben hyn i gyd roedd yn golygu llu o lyfrau gan eraill gan gyhoeddi cyfresi fel Cyfres y Fil. Syniad y gyfres honno oedd cael mil o danysgrifwyr i gyfres o gyfrolau o waith beirdd a llenorion Cymru. Cyhoeddwyd 37 o gyfrolau i gyd. Nid yn unig deffro ymwybyddiaeth o Gymreictod a wnaeth hyn, roedd hefyd yn meithrin llu o awduron trwy gyfrwng y cylchgronau a’r cyfrolau, pobl a gyfrannodd at lenyddiaeth Cymru am ddegawdau lawer. Er i’r teulu symud gydag O M i Rydychen am gyfnod, yn fuan iawn sefydlodd ei gartref yn ôl yn Llanuwchllyn, ym Mrynraber i gychwyn, cyn mynd ati i adeiladu Neuadd Wen a symud yno.
Owen M Edwards Owen M Edwards stands shoulder to shoulder with some of the most prominent people in Wales’ history. He was brought up at Coed y pry, Cwm Cynllwyd, Llanuwchllyn. His father was the son of Pengeulan, the local flour mill and his mother the daughter of a local farmer, Thomas Jones of Garth Isaf. Although his uncle, Edward Edwards, Pengeulan kept a school in Llanuwchllyn, Owen was sent to the church school. English was the medium of education there, and anyone caught speaking Welsh during the day would be punished. The punishment was especially cruel as the children were expected to tell tales about each other. The first pupil to be caught speaking Welsh was given the ‘Welsh Not’ around his neck and the only way he or she could get rid of it was if they reported someone else for speaking Welsh to the teacher. The pupil wearing the Welsh Not at the end of the day would be whipped. This cruelty instilled in him the importance of teaching children in their mother tongue, something he strived for throughout his life. Despite the dark days of his early formal education OM went on to the Grammar School at Bala and to the Calvinistic Methodist College at Bala before proceeding to the University College of Wales at Aberystwyth. He studied at Glasgow before reaching Balliol College, Oxford, and studying history there. He spent a year on the continent in 1888 before returning to Lincoln College, Oxford as a lecturer. Although his work as a lecturer there was intense, this was the period when he began to publish in Welsh with gusto to ensure that his compatriots had plenty of reading material in Welsh and an awareness of their history and culture with his motto ‘codi’r hen wlad yn ei hôl’ (literally ‘to raise the country back up again’). The magazines he published were: Cymru (1891) Cymru'r Plant (1892) Wales (1894) Y Llenor (1895) Heddyw (1897) And then he also published the following volumes of his own works: Trem ar Hanes Cymru (1893) Celtic Britain (1893) Clych Adgof (1906) O'r Bala i Geneva (1889) Ystraeon o Hanes Cymru (1894) Hanes Cymru (1895, 1899) Cartrefi Cymru (1896) Tro yn Llydaw (n.d. c. 1900) Wales (1901, in the series Stories of the Nations) A Short History of Wales (1906) Llyfr Del (1906). For children. Tro trwy'r Gogledd (1907) Tro i'r De (1907) Hwiangerddi (1911). For children. Llyfr Nest (1913). For children. In addition to all this work he also edited numerous volumes by other authors in his series Cyfres y Fil. The aim of the series was to secure a thousand subscribers for a series of volumes about Welsh writers and poets. 37 volumes were published in all. His work not only awakened Welsh awareness, it also developed a host of authors through the medium of the magazines and volumes, authors who contributed to Welsh literature for many decades.
Roedd y trên yn allweddol iddo fedru cyrraedd ei waith yn wythnosol ac roedd Neuadd Wen mewn lle delfrydol. Yn 1907 daeth newid byd gan iddo gael swydd Prif Arolygydd Ysgolion Cymru. Aeth ati i geisio newid naws yr ysgolion, symud oddi wrth ddysgu fel parot tuag at ddatblygu meddyliau a diddordebau a phwysleisio pwysigrwydd rhoi lle teilwng i’r Gymraeg. Collodd ei wraig, Elin, yn 1919 a bu yntau farw yn Neuadd Wen ym Mai 1920 yn 61 oed. Nid trwy gyfri nifer y geiriau neu nifer y cyfrolau y mae mesur ei gyfraniad ond yn hytrach y modd y gwnaeth feithrin diddordeb a dealltwriaeth o hanes a diwylliant Cymru a brwdfrydedd drostynt. Rhagor o wybodaeth O.M. Hazel Walford Davies [2020] Bro a Bywyd Syr O.M. Edwards – Hazel Walford Davies Syr Ifan ab Owen Edwards
Llanuwchllyn © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs
Although the family moved with OM to Oxford for a period, he soon established his home back in Llanuwchllyn, at Brynraber at first, before building Neuadd Wen and moving there. The railway was key to travel to Oxford and Neuadd Wen was in an ideal position. In 1907 his career path changed when he was appointed Chief Inspector of Schools for Wales. He set about changing the whole ethos of the schools, discouraged learning ‘as a parrot’ and instead developing the pupils’ minds and interests and emphasised the importance of giving the Welsh language its rightful position. He lost his wife, Elin, in 1919, and he died at Neuadd Wen in May 1920 at the age of 61. His contribution to Wales should not be measured in the number of words or volumes he published but in the way he fostered an interest and an understanding of Wales’ history and culture, promoted education and the enthusiasm to promote them. Further Reading Sir Ifan ab Owen Edwards

4. Y Gilfach

Goffa